|
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
|
|
||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
John Griffiths AC Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon
|
Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA
10 Gorffennaf 2014 |
Annwyl Weinidog
Sesiwn graffu yn ystod y flwyddyn - cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 3 Gorffennaf
Diolch am ddod i'n cyfarfod ar 3 Gorffennaf 2014 i roi tystiolaeth fel rhan o'n rhaglen craffu ar waith y Gweinidog yn ystod y flwyddyn. Yn ystod y sesiwn, gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda'r wybodaeth a ganlyn:
· darparu ffigurau yn dangos y cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â henebion Cadw ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon;
· darparu manylion am y gwaith a wnaed gan Cadw hyd yma i leihau ei ôl troed carbon a biliau cyfleustodau;
· darparu copi o ymateb y Cyngor Celfyddydau i'r llythyr cylch gwaith 2014-15 gan y Gweinidog;
· trafod gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod cysylltiad rhwng ysgolion a llyfrgelloedd yn eu hardaloedd, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor;
· darparu'r ffigurau ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd y tu allan i Gaerdydd;
· rhannu manylion am yr ymchwil a wnaed mewn perthynas â risgiau iechyd ar gyfer oedolion eisteddog mewn gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol;
· trefnu bod y Pwyllgor yn cael nodyn ar y mater o sicrhau bod y fenter 'Llyfrau Llafar Cymru' yn hyfyw yn y dyfodol;
· darparu nodyn ar effaith dod â'r Gronfa Radio Cymunedol i ben;
· darparu nodyn ar effaith y gostyngiad yn y cyllid a ddarperir i Gyngor Llyfrau Cymru.
Yn ogystal â'r uchod, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
· egluro i ba raddau y mae cyfleusterau chwaraeon yn cael eu cynnwys yn yr asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a wneir gan awdurdodau lleol.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan.
Yn gywir

Christine Chapman AC
Cadeirydd